Skip navigation
Our ‘Check the Register’ function is currently unavailable. We’re aware of the issue and are working to resolve it as quickly as possible. Please try again later. Apologies for any inconvenience.

Beth dylech ei ddisgwyl gan eich gweithiwr iechyd a gofal proffesiynol

Dylai lefel y gofal a gewch gan weithiwr proffesiynol cofrestredig fodloni ein safonau

Rhaid i’r holl weithwyr proffesiynol sydd ar ein Cofrestr fodloni ein safonau. Mae hynny’n golygu gwneud y pethau canlynol.

Eich trin chi fel unigolyn

  • Parchu eich anghenion, eich F7dymuniadau a chyfrinachedd
  • Cyfathrebu â chi mewn ffordd y galllwch ei deall.

Bod yn onest a meithrin ymddiriedaeth

  • Dweud wrthoch chi os bydd pethau’n mynd o’u lle yn eich gofal neu driniaeth.
  • Gwneud yr hyn y gallant er mwyn unioni pethau
  • Cynnal y berthynas yn un broffesiynol.

Blaenoriaethu eich diogelwch

  • Gwneud beth maent yn ei wybod a’i ddeall yn unig, neu eich cyfeirio at weithiwr proffesiynol arall.
  • Dysgu o gamgymeriadau.
  • Codi llais os bydd ganddynt bryderon am eich diogelwch
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 05/12/2023
Top